Gyda’r gwanwyn yn dod, tri peth go wahanol i’w ystyried yn y golofn.
Ym mis Ebrill bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn cychwyn. I ddechrau bydd dau dreth newydd. Yn lle y Dreth Stamp a’r Dreth Dirlenwi, bydd Treth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi yn cael eu casglu. Yn fras bydd mwy o dreth i’w dalu ar dai sydd yn costu dros £400,000. Ym mis Ebrill 2019 disgwylir bydd treth incwm yn cael ei ddatganoli'n rhannol.
Canllawiau i drefnu Profiant (Probate). Ar ôl marwolaeth annwylyn, mae llawer o waith papur i’w wneud ac yn y rhan helaeth o achosion, bydd angen anfon ffurflen Profiant i gwblhau gwaith ar ystad.
Y rhan gyntaf o’r gwaith yw gwneud rhestr o asedion a dyledion yr unigolyn a bydd angen cysylltu gyda’r holl cwmniau i gael manylion o fuddsoddiadau a dyledion a’u gwerth ar ddyddiad y marwolaeth.
Pan mae’r wybodaeth ar gael, yr ail ran o’r gwaith yw cwblhau y ffurflen Profiant ac hefyd ffurflen Treth Etifeddiaeth, hyd yn oed os nad oes angen talu Treth Etifeddiaeth. Fe ddylai’r Grant o Brofiant gael ei gyhoeddi o fewn tua 6 wythnos. Gyda’r Grant byddwch yn gallu trosglwyddo a gwerthu’r eiddo a dosbarthu yr ystad yn unol â gofynion yr ewyllys.
Gobeithio bydd pawb wedi cadw bant o Bitcoin. Yr unigolion sydd yn rhoi arian i mewn yn olaf i gynllun pyramid / bwrlwm sydd yn colli mwyaf.
Mae Huw yn gyfrifydd hunan gyflogedig yn cynnig gwasanaeth ar dreth incwm, ewyllysiau a gwaith profiant. Cysylltwch ar 029 2069 4524 neu This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. os ydych eisiau trafod unrhyw fater.