Gobeithio eich bod wedi mwynhau’r Eisteddfod a’r cyfnod gwyliau.

Bu farw Aretha Franklin yn ddiweddar ac fel Michael Jackson, Abraham Lincoln, Pablo Picasso a miliynnau o unigolion eraill nid oedd wedi paratoi ewyllys.

Os nad yw unigolyn wedi gwenud ewyllys mae rheolau llym yn bodoli sydd yn cydnabod priodas, partneriaeth sifil a’r linell gwaed.  Yn fras:

Lle mae priod â dim plant, mae’r priod yn etifeddu’n llwyr.

Os oes gan y priod blant mae’r priod yn etifeddu y £250,000 gyntaf, yn cael hawl i fyw yn y cartref priodasol ac mae gweddill yr ystâd yn cael ei rannu rhwng y priod a’r plant.

Os nad oes priod mae’r plant yn etifeddu’n llwyr.  Lle nad oes plant na phriod mae teulu agos arall yn gallu etifeddu.

Yn bwysig iawn os oes dau berson yn byw gyda’u gilydd yn ddi-briod nid oes ganddynt unrhyw hawl cyfreithlon i etifeddu yn syth ac mae hyn yn gallu creu problemau enfawr - yn ariannol ac yn emosiynol.

Nid oes hawl i drefnu rhoddion i ffrindiau agos neu elusennau.  Os ydych wedi cwympo mas gyda aelod o’r teulu, byddant yn etifeddu yn ôl y rheolau yn gyfartal gyda aelodau cariadus a chyfathrebol o’r teulu.

Mae’r neges yn glir ac yn syml – os ydych eisiau sicrhau bod eich asedion yn mynd ble yr ydych yn dymuno, gwnewch ewyllys.

 

Mae Huw yn gyfrifydd sy’n arbenigo mewn treth incwm, ewyllysiau a gwaith profiant.  Cysylltwch ar This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

029 2069 4524 neu trwy www.huwrobertsaccountant.cymru

Contact Huw Roberts

Client Testimonials

  • "We will let Huw do his magic with Probate"

    Comment from a partner in a firm of Independent Financial Advisers

  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17