Dymunaf fendithion yr Wyl i chi gyd.

Dyma grynodeb o brif bwyntiau’r Gyllideb – codiadau yn lwfansau personol o £11,850 i £12,500 am drethdalwyr s’yn talu treth incwm @ 20% ac mae’r graddfa 40% yn codi o £46,350 i £50,000.  Ar y llaw arall mae codiadau Yswiriant Cenedaethol, gwin a theithio ar awyren.

O 6 Ebrill 2019 mae codiad enfawr yn ffioedd Profiant (Probate). 

Os yw’r ystad o dan £300,000 ni fydd llawer o newid o’r ffi bresennol o tua £220.  Os yw’r ystad dros £500,000 mae’r gost yn codi dros ei ddegfed i £2,500 ac os yw’r ystad dros £1,000,000 mae’r ffi yn £4,000.

I nifer o unigolion ar ôl colli anwylyn mae trefnu Probate yn anodd ac yn amal ni fydd yn cael ei wneud am nifer o fisoedd ac efallai blynyddoedd.  I rhain mae oedi ymhellach yn mynd i fod yn gostus ac yn achosi mwy o loes.  Os ydych chi, neu aelod o’ch teulu yn y sefyllfa yma, galed fel y mae, bydd yn talu ffordd i gwblhau y gwaith papur cyn diwedd Mawrth 2019.

Gofynnwch i Huw : Mae gennyf roddion carden (Gift vouchers).  Am faint mae rhain yn para?

Gan amlaf bydd dyddiad pendant o tua 2 blwyddyn.  Yn y gorffennol efallai byddai cwmniau wedi ymestyn y dyddiad ond nid yw hyn yn digwydd bellach.  Os yw cwmni yn dod i ben mae’r cardiau yn ddi-werth.  Ewch allan i wario!

Os oes gennych gwestiwn cyffredinol am y golofn anfonwch E Bost at This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu trwy www.huwrobertsaccountant.cymru neu ffoniwch 029 2069 4524.

Mae Huw yn gyfrifydd sy’n arbenigo mewn treth incwm, ewyllysiau a gwaith profiant.

Contact Huw Roberts

Client Testimonials

  • "We will let Huw do his magic with Probate"

    Comment from a partner in a firm of Independent Financial Advisers

  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17