Gyda diwedd y flwyddyn ariannol yn agosau ar 5 Ebrill 2019, os yn berthnasol defnyddiwch eich lwfansau llawn am eich ISA (£20,000), cyfraniadau pensiwn, lwfansau Treth ar Eiddo a rhoddion (£3,000) o dan rheolau Treth Etifeddiant.

Cymerwch ofal gyda’ch buddsoddiadau.  Yn amal gwelwch hysbysebion am “mini-bonds” neu “crowdfunding” yn cynnig llog uchel iawn – efallai 6-8% yn lle y 1-1.5% arferol.  Yn anffodus nid oes sicrwydd i’r buddsoddiadau yma, nid ydynt yn cael eu cefnogi o dan reolau’r  “Financial Services Compensation Scheme” ac yn anffodus os ydynt yn mynd i’r wal gallwch colli canran fawr neu hyd yn oed y cyfan o’r buddsoddiad.

Gofynnwch i Huw : Yr wyf yn perchen ar sawl ty a hoffwn roi un i fy nith.  A fydd treth yn daladwy ar y rhodd?

Yn ôl y Swyddfa Dreth mae Treth ar Eiddo yn daladwy pan ydych yn gwerthu neu gwaredu ar eiddo, heblaw os yw’n mynd i’ch priod, bartner sifil neu i elusen.    Felly, er yn rhodd, bydd Treth ar Eiddo yn daladwy ar unrhyw gynnydd gwerth llai y £11,700 cyntaf, @ 18% neu 28% am drethdalwr uwch.

Os oes gennych gwestiwn cyffredinol am y golofn anfonwch E Bost at This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu trwy www.huwrobertsaccountant.cymru neu ffoniwch 029 2069 4524.

Mae Huw yn gyfrifydd sy’n arbenigo mewn treth incwm, ewyllysiau a gwaith profiant.

Contact Huw Roberts

Client Testimonials

  • "We will let Huw do his magic with Probate"

    Comment from a partner in a firm of Independent Financial Advisers

  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17