Bu cynnydd yn morgeisi “Equity Release” i unigolion dros 55.

Mewn rhai amgylchiadau gall hyn fod yn effeithiol ond dylid ystyried y ffigyrau yn fanwl gan y bydd llai o ryddid gennych yn y blynyddoedd i ddod ac mae’r llôg yn gallu cynyddu yn sylweddol.

Dyletswyddau Profiant / Ysgutor: Mae’r rhain yn eang ac yn cynnwys cwblhau ffurflenni Profiant a Threth Etifeddiaeth, cysylltu gyda sefydliadau ariannol i ryddhau asedion, gwerthu eiddo a chysylltu gyda chyfreithwyr, gwerthwyr tai a.y.b. a thalu allan yr asedion yn ôl yr ewyllys.

Gofynnwch i Huw : Yr ydym yn bâr priod cyfforddus.  Faint allwn ni adael i’n plant / wyrion cyn talu treth etifeddiaeth?

£325,000 yw lwfans unigolyn, £650,000 i bâr priod.  Ar ben hyn mae lwfans newydd y “Residence Nil Rate Band” o £150,000 yr un, £300,000 y cwpwl os ydych yn gadael eich cartref i’ch plant / wyrion, felly uchafswm o £950,000 cyn talu treth etifeddiaeth.

Sylwer nad yw pâr di-briod yn gallu trosglwyddo lwfans i’w cymar a bod y ‘Residence Nil Rate Band’ i blant ac wyrion yn unig – nid yw am gymar, teulu agos arall na ffrindiau.

 

Os oes gennych gwestiwn cyffredinol am y golofn anfonwch E Bost at This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu trwy www.huwrobertsaccountant.cymru neu ffoniwch 029 2069 4524.

Mae Huw yn gyfrifydd sy’n arbenigo mewn treth incwm, ewyllysiau a gwaith profiant.

Contact Huw Roberts

Client Testimonials

  • "We will let Huw do his magic with Probate"

    Comment from a partner in a firm of Independent Financial Advisers

  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17