A ydych yn rhy glyfar i gael eich scamio?  Chi gyd siwr o fod yn meddwl wrth gwrs bo fi yn rhy glyfar, ond mae miloedd o unigolion deallus wedi cael ei twyllo gan un o’r canlynnol:

A   “Helo yr wyf yn ffonio o’ch banc.  A ydych wedi talu £600 am ffôn newydd?”  “Na, dim fi.”  “Falch i glywed ond mae’n edrych fel bod eich cyfrif banc wedi ei hacio.  Felly os hoffech newid eich rhif diogelwch dros y ffon…  gai gadarnhau eich rhif banc…..”.  Peidiwch byth, byth a rhoi gwybodaeth am eich manylion banc dros y ffôn.

B   Mae rhai scamwyr wedi rhyng gipio ebyst busnesau ac yn lle gwneud taliad ar lein i’r cwmni iawn, mae nhw yn rhoi cyfrif banc anghywir ar beth sydd yn ymddanos fel anfoneb iawn.  Digwyddodd hyn i newyddiadurwr gyda’r Financial Times – gelwir hyn yn Push Payment fraud.

C   Byddwch yn ofalus iawn os ydych yn archebu ticedi ar-lein am chwaraeon rhyngwladol / cyngherdau poblogaidd.

 

Gofynnwch i Huw:

Beth yw sefyllfa treth etifeddiaeth ar ISA?  Gan fod ISA yn enw unigolyn mae hyn yn cel ei gyfrif o fewn ystad yr ymadawedig.  Yn gyffredinol rhaid wedyn gwerthu’r ISA gyda’r un eithriad lle y gellir ei drosglwyddo i’r cymar priod, ac mae hyn yn gynllun defnyddiol.

 

Os oes gennych gwestiwn cyffredinol am y golofn anfonwch E Bost at This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu trwy www.huwrobertsaccountant.cymru neu ffoniwch 029 2069 4524.

Mae Huw yn gyfrifydd sy’n arbenigo mewn treth incwm, ewyllysiau a gwaith profiant.

Contact Huw Roberts

Client Testimonials

  • "We will let Huw do his magic with Probate"

    Comment from a partner in a firm of Independent Financial Advisers

  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17