Mae cost benthyca’r llywodraeth yn isel iawn.  Newyddion drwg i gynilwyr sydd ddim yn “siopa o gwmpas”, gyda graddfeydd llog yn isel iawn.  Ar y llaw arall mae’n newyddion da i’r bobol sydd eisiau morgais, ond byddwch yn ofalus gyda ffioedd uchel am drefnu’r morgais.

Byddwch yn ofalus os chi’n derbyn ffôn newydd yn y post nad ydych wedi archebu.  Os ydych yn ei derbyn ac yn arwyddo amdani efallai bydd gyrrwr yn dod nôl i gasglu’r ffôn mewn hanner awr oherwydd “camgymeriad”.  Bydd y gyrrwr gyda’r ffôn newydd yn eich gadael chi i dalu am y ffôn!  Byddwch yn wyliadwrus.

Os ydych fel teulu yn cadw dogfennau ariannol am lawer o flynyddoedd, 6 blwyddyn yw’r bella yn ôl y gall y Swyddfa Dreth holi amdanynt.  Felly gwaredwch â phopeth cyn 5 Ebrill 2013.

Gofynnwch i Huw: Sut allaf gael gwybodaeth am bensiwn y wlad?

Ewch ar-lein i “State pension forecast” a dilynwch y linc i wefan gov.uk neu ffoniwch y llinell Gymraeg 0800 731 0175.  Yr uchafswm yw £168.60 yr wythnos ac mae’n rhaid talu mewn am 35 o flynyddoedd.

Os oes gennych gwestiwn cyffredinol am y golofn anfonwch E Bost at This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu trwy www.huwrobertsaccountant.cymru neu ffoniwch 029 2069 4524.

Mae Huw yn gyfrifydd sy’n arbenigo mewn treth incwm, ewyllysiau a gwaith profiant.

Contact Huw Roberts

Client Testimonials

  • "We will let Huw do his magic with Probate"

    Comment from a partner in a firm of Independent Financial Advisers

  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17