Sylwadau am Thomas Cook, cwmni oedd yn hwyr iawn yn talu ei ddyledion.   Os ydych yn rhedeg busnes, peidiwch ofni cerdded i ffwrdd o gwmniau mawr neu bach sydd o hyd yn hwyr yn talu anfonebau. 

I unigolion, talwch gyda charden credyd am wyliau / eitemau costus – mae mwy o obaith o gael eich arian yn ôl os yw pethau’n mynd o le.

 

Edrychwch ar eich ewyllysiau yn rheolaidd.  Mae hyn yn enwedig yn wir am ewyllysiau sydd wedi eu harwyddo cyn 2008 gyda “Discretionary will trusts”. Mae posibilrwydd gallai ewyllys hen fod yn gostus iawn am Dreth Etifeddiaeth neu ddim yn adlewyrchu eich amgylchiadau presennol.

 

Gofynnwch i Huw : Mae aelod o’r teulu wedi gofyn i mi warantu ei morgais.  Beth yw eich sylwadau?

 

Pan chi’n gwneud hyn i aelod ifanc o’r teulu sydd wedi gweithio’n galed ac yn dechrau gyrfa broffesiynol lwyddiannus mae eich risk yn gymharol isel.

 

Os yw aelod hynach o’r teulu sydd mewn sefyllfa ariannol wan yn gofyn i chi mae llawer mwy o risg ariannol.  Efallai bydd angen dangos “cariad caled” a dweud na.  Gwell cwympo mas am amser byr na thalu dyled mawr.

 

Os oes gennych gwestiwn cyffredinol am y golofn anfonwch E Bost at This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu trwy www.huwrobertsaccountant.cymru neu ffoniwch 029 2069 4524.

 

Mae Huw yn gyfrifydd sy’n arbenigo mewn treth incwm, ewyllysiau a gwaith profiant.

Contact Huw Roberts

Client Testimonials

  • "We will let Huw do his magic with Probate"

    Comment from a partner in a firm of Independent Financial Advisers

  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17