Cymraeg

Cyfrifydd ac Ymarferydd Profiant

Newyddion da am fy nghwmni Huw Aled Accountants Ltd. Rydym wedi cael ein cymeradwyo am ein defnydd o'r Gymraeg yn ein Busnes gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Huw yn darlledu  ar BBC Radio Cymru trwy Facetime o'i swyddfa adref ar effeithiau ariannol coronavirus.

“Lleiafrif yw’n cyfrifydd
Yn brydlon, ffyddlon, llawn ffydd”
Teyrnged gan un o feirdd cadeiriol Cymru.

Ers 1987 mae Huw wedi darparu gwasanaeth yn y Gymraeg ledled Gymru a thu hwnt. Cynigir gwasanaeth profiant ar ôl colli anwylyn, cyngor manwl ar Dreth Etifeddiaeth a threfnu ewyllysiau yn y Gymraeg.  Arbenigedd Huw fel cyfrifydd yw materion treth personol gan gynnwys treth ar eiddo.

Gyda dros hanner y cleientiaid yn Gymry Cymraeg, gellir cyfathrebu yn y Gymraeg pan bo modd.   Gyda threth incwm mae’r unigolion yn cael eu cofrestru gyda’r Swyddfa Dreth Gymraeg ym Mhorthmadog a gellir anfon ffurflenni Profiant yn yr iaith Gymraeg.

Ar yr ochr gyfreithlon, mae gan Huw gysylltiad gyda chyfreithiwr sydd yn gallu paratoi ewyllys yn y Gymraeg.  

Pan oedd Huw gyda S4C yn 1982 fe oedd yn gyfrifol am gyhoeddi cyfrifon cyntaf y sector gyhoeddus yn yr iaith Gymraeg.  Ar y pryd nid oedd cyfieithwyr proffesiynol ar gael a rhaid oedd meddwl yn ddwys am dermau technegol Cymraeg am faterion cyllid!

Gelwir ar Huw yn gyson i ddarlledu yn fyw ar BBC Radio Cymru ar faterion ariannol gan gynnwys diwrnod y Gyllideb, Brexit yn 2016, yr Etholiad Cyffredinol yn 2017 ac ar scams.

Yn ystod 2020 bu Huw yn darlledu yn rheolaidd ar ‘Post Cyntaf’ BBC Radio Cymru ar effeithiau ariannol Covid ac ar gyhoeddiadau’r Canghellor, Rishi Sunak ac ar S4C. Yn 2021 fe ddarledodd Huw ar y Gyllideb ac ar effaith chwyddiant ar yr economi.

Yn 2022 mae Huw wedi darlledu ar gam weinyddu pensiynau'r wlad, costau ynni a pholisïau economaidd y cyn Brif Weinidog Liz Truss ac yn 2023 ar scams a twyllo'r trysorlus.

"Dim ond nodyn byr i’th ganmol am dy eitem ar Radio Cymru – ardderchog wir!  Cyngor clir a phendant a dull hawdd ei ddeall ac i wrando arno – neges oddi wrth un o wrandawyr Radio Cymru."

Mae Huw yn Drysorydd anrhydeddus papur Cymraeg Caerdydd, Y Dinesydd ac yn ysgrifennu colofn fisol o dan y teitl “Gwylio’r Geiniog”.

Contact Huw Roberts

Client Testimonials

  • "We will let Huw do his magic with Probate"

    Comment from a partner in a firm of Independent Financial Advisers

  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17